Archifau@Aber

Ar y 27-28 o Dachwedd 2017, bydd grŵp o ôl-raddedigion Hanes a Hanes Cymru a Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn trefnu Archifau@Aber, gweithdy deuddydd o hyd ar ddulliau ymchwil archifol ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig a staff. Mi fydd y gweithdy’n cynnwys ystod eang o siaradwyr o adrannau gwasanaethau ac academaidd wahanol (Hanes a Hanes Cymru, Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Ieithoedd Modern, Rheoli Gwybodaeth, Llyfrgelloedd ac Archifau a Gwasanaethau Gwybodaeth) a fydd yn rhannu eu gwybodaeth ynglŷn â sut i fynedi’r gyfoeth o gasgliadau archifol sydd gan y brifysgol. Ffocws y gweithdy yw edrych ar ddulliau ymchwil rhyngddisgyblaethol, awgrymiadau ymarferol yn ogystal â sut i ymdrin â themâu ymchwil ar draws cyfnodau o amser. Hefyd, mi fydd y gweithdy yn cynnwys ymweliad â Llyfrgell Genedlaethol Cymru gyda sgyrsiau arbenigol a thywys archifol, yn ogystal â chael y fraint o glywed dau siaradwr ar Archifau Menywod yng Nghymru ac ymchwilio i mewn i hanes y Rhyfel Oer.